Prosiect 23: Chwilio’r Chwedl

Ychwanegwyd:

chwilio'r chwed 1.png
  • Tagiau
  • Tag Cymraeg
  • Golygfeydd 2248

Daeth Chwilio’r Chwedl i Faes Eisteddfod yr Urdd 2023 ar yr 28ain o Fehefin, 2023, i groesawu pawb i Lanymddyfrif yn Sir Gaerfyrddin mewn steil.

Yr oedd y cynhyrchiad yn un arbennig o unigryw a oedd wedi cyfuno perfformiadau a gwaith creadigol ar Faes yr Eisteddfod i arddangos hanes y sir mewn modd egnïol a chynhwysol.

Hoffai Partneriaeth longyfarch holl blant a phobl ifanc Sir Gaerfyrddin a oedd yn rhan o brosiect hynod o lwyddiannus. Mae Partneriaeth yn awyddus i sicrhau bod y gwaith hwn yn cael ei rannu gydag ysgolion cynradd ac uwchradd y rhanbarth i gefnogi’r iaith Gymraeg, diwylliant a threftadaeth. Gweler MS Team felly yn cynnwys pecyn digidol o’r holl sgriptiau, chwedlau, caneuon a pherfformiadau Prosiect 23.

Mae gan ysgolion y rhanbarth hawlfraint i ddefnyddio’r adnoddau hyn yn eich ysgolion yn unig, ond os bydd angen defnyddio’r adnoddau hyn y tu allan i’r ysgol, yna bydd angen gofyn am ganiatâd yr awduron a’r cerddorion ymlaen llaw. (Mae eu henwau uwchben y darnau), neu gysylltwch â sianwilliams@urdd.org am ganiatâd.