David Bradley
Ymgynghorydd: Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Profiad
Mae David wedi gweithio ym maes gwella ysgolion yn rhanbarthol ers 2014 pan gafodd secondiad fel Arweinydd Dysgu gwyddoniaeth. Mae’n cefnogi athrawon, ysgolion a lleoliadau ar draws y continwwm 3-16.
Mae wedi gweithio ym maes addysg ers 1992 ac mae wedi dysgu gwyddoniaeth CA3-5 mewn 3 ysgol uwchradd yn Sir Gâr ac Abertawe. Mae gan David 14 blynedd o brofiad fel pennaeth gwyddoniaeth/bioleg mewn ysgol uwchradd fawr i ddysgwyr 11-18 oed yn Abertawe. Mae David yn Arolygydd Ychwanegol gydag Estyn.